24991212_10159918385910413_2314556375697779601_n.jpg

Mae Aled Lewis yn falch o'i gysylltiad cryf â chanolbarth Cymru. Ganwyd ef ym Machynlleth a chafodd ei fagu ar fferm ei deulu ychydig o filltiroedd i ffwrdd. Ar ôl cael ei ddylanwadu gan ei Dad, symudodd i Rydychen i astudio ar gyfer bod yn saer celfi a dechreuodd ei yrfa yn adfer hynafolion. Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, symudodd i weithio i America a De Affrica cyn dychwelyd i fyw i Rhydychen. Dros y deunaw mlynedd nesaf, rheolodd dîm o grefftwyr, yn dylunio a gwneud dodrefn o safon uchel ar gyfer sefydliadau preifat, corfforaethol ac academaidd.

Yn 2001, sefydlodd Aled fusnes newydd yn Rhydychen. Canolbwyntiodd ar ei ddyluniadau ei hunan, gan archwilio syniadau newydd ac adeiladu ar sylfaen o ddyluniad sy'n cael ei ystyried yn esthetig. Ar gyfer bob prosiect, mae ef yn anelu i gael ateb dyluniad rhesymegol, ymarferol ac anfanwl. Mae ef hefyd yn gweithio i ddylunwyr a phenseiri, gan helpu i greu'r gweledigaethau y maent wedi ei fwriadu ar gyfer eu cwsmeriaid. Mae ei waith yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Senedd.

Mae Aled yn cynnal perthynas gref â Chymru ac mae ei gefndir yn ei ysbrydoli. Prynodd ac adnewyddodd hen ffermdy sydd ychydig o funudau i ffwrdd o gartref ei blentyndod yn y mynyddoedd uwchben Machynlleth ac mae'n treulio cymaint o amser yno ac sy'n bosibl. Mae Aled hefyd yn defnyddio enwau Cymraeg fel teitlau i lawer o'i waith, ac mae'n awyddus i hyrwyddo diwylliant a dylanwad cartref ei blentyndod.

Ers 2009, mae Aled wedi bod yn hyfforddwr arweiniol yn y 'Center for Furniture Craftsmanship' yn Maine, UDA. Mae'r ysgol yn darparu'r addysg orau bosibl i'r bobl sydd eisiau adeiladu gwaith swyddogaethol, hardd a mynegiannol i'r safonau uchaf o grefftwaith. Mae Aled yn angerddol am rannu a throsglwyddo'r sgiliau y mae ef wedi ei ddysgu dros y tri degawd diwethaf. Mae'n helpu myfyrwyr i feistroli'r sgiliau mewn gwaith coed ac yn arwain eu dyluniadau trwy'r broses o'u gwneud. Bellach, mae Aled nawr yn rhannu ei amser rhwng Maine a Chymru, yn addysgu, dylunio a gwneud dodrefn. Ei fwriad yw sefydlu gweithdy addysgu yng nghanolbarth Cymru lle gall pobl o bob gallu ddechrau dysgu a mwynhau sgiliau gwaith coed.